Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Ionawr 2024
Amser:
09.35 -
12.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14010
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS (yn lle Hefin David AS) Alun Davies AS Tom Giffard AS Llyr Gruffydd AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Jason Thomas, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams, Clerc Haidee James, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Robin Wilkinson, Ymchwilydd Sam Mason, Cynghorydd Cyfreithiol |
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Hefin David AS. Roedd Huw Irranca-Davies yn bresennol fel dirprwy.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a Gweinidog yr Economi.
2.2 Cytunodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i rannu copi o'r strategaeth ddiwylliant gyda'r Pwyllgor cyn iddi gael ei chyhoeddi.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i gael gwybodaeth ychwanegol.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.